Diogelwch Ar-lein / Online Safety
Diogelwch ar-lein
Mae diogelwch ar-lein yn rhan bwysig o gadw eich plentyn yn ddiogel yn Ysgol Gymraeg Caerffili. Mae’r we yn hanfodol ym mywyd yr 21ain ganrif ar gyfer addysg, busnesau a rhyngweithio cymdeithasol. Mae ein disgyblion yn ffodus iawn i gael mynediad at ystod eang o ddyfeisiadau i’w defnyddio yn eu dosbarthiadau ac wrth iddynt symud lan trwy’r ysgol, mae eu hannibyniaeth a’u chwilfrydedd yn cynyddu. Mae manteision y byd digidol yn sicr yn drech na’r pethau negyddol, ond mae angen i blant, ysgolion a rhieni fod yn ymwybodol o’r risgiau.
Mae gennym fesurau diogelwch ar waith yn ein hysgol sy’n cael eu monitro, i helpu diogelu disgyblion rhag peryglon posib neu weld deunydd anaddas a bydd unrhyw ddigwyddiadau’n cael eu cofnodi a’u rheoli. Rydym yn dysgu diogelwch ar-lein i bob disgybl drwy gydol y flwyddyn gan esbonio ac arddangos sut i gadw’n ddiogel ac ymddwyn yn briodol ar-lein.
Mae’n bwysig bod y plant hefyd yn cael eu cefnogi a’u haddysgu am ddiogelwch ar-lein adref fel bod y neges yn gyson. Edrychwch isod ar ein rhestr o ddolenni ac adnoddau ar gyfer rhieni/gofalwyr, athrawon a phobl ifanc i’ch helpu gyda diogelwch ein plentyn ar-lein yn y tŷ.
Online Safety
Online safety is an important part of keeping your child safe at Ysgol Gymraeg Caerffili. The internet is essential in 21st century life for education, business and social interaction. Our pupils are very fortunate to have a wide range of devices to use in their class and as they move up through the school, their independence and curiosity increases. The positives of the digital world overwhelmingly outweighed the negatives, but children, schools and parents all need to be aware of the risks.
We have security measures in place which are monitored, to help safeguard pupils from potential dangers or unsuitable material and any incidents will be recorded and managed. Online safety is taught to all pupils throughout the year explaining and demonstrating how to stay safe and behave appropriately online.
It is important that the children are also supported and taught at home about online safety so that the message is consistent. Look below at our list of links and resources for parents/carers, teachers and young people to help you with your child’s online safety at home.
Common Sense Education - Family tips and activities
Posteri Diogelwch Ar-Lein (Cyfryngau Cymdeithasol a Gemau) / Online Safety Posters (Social Media and Games)
Tips and hints posters for parents
Dyddiadau Pwysgig / Important Dates
Wythnos Gwrth-Fwlio / Anti-Bullying Week (14-18/11/2022) https://anti-bullyingalliance.org.uk/anti-bullying-week/anti-bullying-week-2022-reach-out
Safer Internet Day (08/02/2023) https://www.saferinternetday.org/