School Logo

Ysgol Gymraeg Caerffili

Hawl plentyn ei iaith

Contact Us

Interactive Bar

Google Translate

Google Search

Hanes yr Ysgol / School History

Hanes Byr o'r Ysgol

Agorwyd yr ysgol bresennol ym 1970 wedi sefydlu'r dosbarth cyfrwng Cymraeg cyntaf yma ym 1962. Symudodd y dosbarth i fyny i Senghennydd i sefydlu Ysgol Gymraeg gyntaf yr ardal yn Ysgol Ifor Bach. Wrth i'r galw am addysg ddwyieithog barhau i dyfu sefydlwyd Uned Gymraeg yn Ysgol Fabanod Coed y Brain yn Llanbradach ym 1977 ar gyfer plant Llanbradach, Bedwas, Trethomas a Machen gyda'r plant yn trosglwyddo yma yn saith oed. Ym 1995 agorwyd Ysgol y Castell ar gyfer y plant yr ardaloedd hynny. 
Gyda’r galw am lefydd yn yr ysgol yn cynyddu roedd yn amlwg bod rhaid ail leoli ac yn Medi 2015 symudodd yr ysgol i safle’r Gwyndy fel rhan o brosiect Llywodraeth Cymru a Sir Caerffili gyda chost o £20 miliwn er mwyn datblygu safle o 3 i 18. Er ein bod ni’n rhannu’r safle gyda Chwm Rhymni nid ydy disgyblion y ddwy ysgol yn cymysgu ac ond un fynedfa i mewn ag allan o’n hysgol ni sydd. Mae gennym felly erbyn hyn ysgol sy’n darparu addysg o safon uchel iawn ar gyfer disgyblion yn yr unfed ganrif ar hugain.

 

A Brief History of the School

The present school was opened in 1970 following the establishment of a Welsh medium class here in 1962. The class then moved up to Senghennydd to establish the area's first Welsh medium school in Ysgol Ifor Bach. As the demand for Welsh medium education continued to grow a Welsh Unit was set up in Coed y Brain school in Llanbradach in 1977 for the children of Llanbradach, Bedwas, Trethomas and Machen. In 1995 Ysgol y Castell was opened for children from those areas. 
With increased demand for places at our school it was evident that we needed to relocate and in September 2015 we moved to the Gwyndy site as part of a joint Welsh Government and Caerphilly council project which developed a site for 3-18 year old pupils worth £20 million. Although we share the site our pupils do not mix with the pupils of Ysgol Gyfun Cwm Rhymni with only one secure entrance onto our site. We have therefore a school designed for pupils who want to learn and flourish in the 21st century with very high standards in terms of learning and teaching.

Top